Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 18 Ebrill 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
13: - 15:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Sioned Evans, Llywodraeth Cymru Piers Bisson, Public Service Reform Division Deborah Paramore, Public Service Reform Team |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Eleanor Roy (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
2. Rheoli Asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth; Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Sioned Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Eiddo; a Deborah Paramore, Rheolwr Rhaglenni, Tîm Diwygio GwasanaethAU Cyhoeddus.
2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidogion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu’r canlynol:
· Y wybodaeth ddiweddaraf am arbedion a gafwyd o’r Strategaeth Lleoliad a gwaith rheoli’r ystâd weinyddol;
· Rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella dibynadwyedd a chysondeb yn y gwaith o gyflwyno gwybodaeth er mwyn galluogi meincnodi a rheoli perfformiad;
· Enghreifftiau o ble y defnyddiwyd ceisiadau llwyddiannus Buddsoddi i Arbed er mwyn mynd i’r afael â materion Rheoli Asedau;
· Arbedion a wnaed gan ddefnyddio dull y Gweithgor Asedau Cenedlaethol, yn gymesur ag arbedion a wnaed gan fodel y Scottish Futures Trust.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5. Ystyried y Dystiolaeth ar Reoli Asedau
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau.